Mae llawer o fân salwch a chyflyrau ynhunan-gyfyngol; byddant yn gwella
heb unrhyw driniaeth; byddwch yn gallu delioâ'r rhan fwyaf ar eich pen eich hun gydag ychydig o help gan eich fferyllydd osbydd angen:-
Gwrthfiotigau(Antibiotics)
Mae'r rhain yn gyffuriau defnyddiol iawn ar gyfer trin heintiau bacterol ondmaent yn hollol aneffeithiol wrth drin cyflyrau sydd wedi'u hachosi ganfirysau, er enghraifft annwyd a ffliw, y rhan fwyaf o anhwylderau stumog adolur gwddf. Mae gorddefnydd yn arwain at ymwrthedd bacterol a gallant gaelsgil effeithiau difrifol. Bydd eichMeddyg Teulu neu Nyrs Ymarferydd ynpenderfynu pan fydd yn briodol eudefnyddio.
Alergeddau ac Anoddefgarwch (Allergies andIntolerances)
Mae'r term alergedd yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pan fydd y system imiwneddyn gor-ymateb i sylwedd sydd fel arfer yn ddiberygl. Gall symptomau alergeddgynnwys trwyn sy'n rhedeg, llygaid sy'n cosi,brech a diffyg anadl. Y sylweddaumwyaf cyffredin sy'n gallu achosiymateb alergaidd yw paill coed a glaswellt,pysgnau a gwiddon llwch.
Anoddefgarwch bwyd yw'r term a ddefnyddirpan na fydd y corff yn gallu torri i lawr rhai bwydydd yn llawn, neu ddim yngallu eu treulio. Ymhlith symptomau anoddefgarwch bwyd mae meigrynnau, doluriaua phoenau achwydd.
Cysylltwch â'ch fferyllydd lleol neu GalwIechyd Cymru (08454647) i gael cyngor, oni bai bod eich symptomau yn ddifrifolneu'n para'n hir, os felly dylech naill ai ffonio 999 neu wneud apwyntiad iweld eich Meddyg Teulu neu ein Nyrs Ymarferydd.
Tarwden y Traed (Athlete’s Foot)
Mae tarwden y traed yn gyflwr cyffredin iawn. Mae haint ffyngaidd sy'n effeithioar groen y traed yn ei hachosi. Fel arfer mae tarwden y traed yn ysgafn ac yneffeithio ar y croen rhwng bysedd y traed yn unig, gan achosi iddo fod yn goch,fflawiog a choslyd. Gall y rhan fwyaf o bobl drin tarwden y traed yn y cartref.Gofynnwch i'ch fferyllydd am gyngor am yr elïau gwrthffyngol mwyaf priodol. Os nadyw'r elïau hyn yn effeithiol neu os yw'ch tarwden y traed ynddifrifol, trefnwchapwyntiad â'r Meddyg Teulu neu'n NyrsYmarferydd.
Poen cefn (Back pain)
Bydd poen cefn yn effeithio ar bron i 80% ohonom yn ystod ein bywydau, fwy nagunwaith mae'n debyg. Yn anaml bydd poen cefn yn ddifrifol a gallwch wneudllawer o bethau i reoli eich poen. Mae cadw yn actif yn golygu gwahanol bethaui wahanol bobl, ond y neges syml yw parhau fely byddech fel arfer. Peidiwch âbod ofn mynd â'r ci amdro, cerdded i'r gwaith, neu fynd i nofio, hyd yn oed osyw'n brifo.Dyma'r peth gorau gallwch chi wneud i gyflymu eich adferiad. Nidyw'r ffaith eich bod mewn poen yn golygu eich bod yn gwneud niwed parhaol. Mae'niawn cymryd cyffuriau lleddfu poen dros y cownter i'ch helpu I barhau felnormal a chyflymu eich adferiad. Gofynnwch am gyngor ganeich fferyllydd amgyffuriau lleddfu poen dros y cownter addas.
Osyw'r boen yn gwaethygu, neu os yw'r boen yn para mwy na 4-6 wythnos,neu osyw'r symptomau'n newid, trefnwch apwyntiad i weld eich MeddygTeulu.
Llosgiadau (Burns)
Oerwch y llosgiad â dŵr oer ac yna gorchuddiwch ef â dresindi-haint o ddeunyddheb fod yn flewog, fel haenen lynu, neu fagplastig. Peidiwch â rhoi elïau ar yllosg. Dylech geisio help meddygol oni bai bod y llosg yn fân iawn.
Brechyr ieir (Chickenpox)
Maefel arfer yn hawdd gwneud diagnosis o hyn, bydd smotiau coch yn ffurfiopothellau bach, ar y bongorff i ddechrau, ac yn datblygu amrywiaeth o gamau ganfynd ymlaen i ffurfio crachod. Mae cymhlethdodau'n anghyffredin iawn. Gallhufen calamin leddfu'r cosi ac mae baddonau'n lleddfol. Dylai’ch plentyn weldMeddyg Teulu os nad yw'n yfed, os yw’n dioddef â'r frest, yn gysglyd neu'n chwydu.
Doluriau Annwyd (Cold Sores)
Yfirws herpes syml sy’n achosi doluriau annwyd, ac mae 80% oboblogaeth y DU yncludo'r firws. Mae firws herpes syml yn heintus iawn ac fel arfer bydd yn caelei drosglwyddo yn gynnar yn ystod plentyndod pan fydd rhywun yn cael cusan ganunigolyn, aelod o'r teulu fel arfer, sydd â dolur annwyd actif. Gall doluriau annwydddigwydd pan na fyddwch yn teimlo'n rhy dda ac fel arfer byddant yn ymateb idriniaeth ag eli o'r enw 'aciclovir' sydd ar gael dros y cownter yn eichfferyllfa. Gallwch wneud apwyntiad i weld eich Meddyg Teulu os na fydd eichdoluriau annwyd yn ymateb fel y disgwyli eli 'aciclovir' neu'n dychwelyd ynaml.
Annwyd Cyffredin (Common Cold)
Gall oedolion brofi 2-4, a gall plant ifanc brofi 3-8 annwyd y flwyddyn.Felarfer bydd symptomau'n cyrraedd y brig ar ôl 2-3 diwrnod ac yna'n gwella drosychydig ddyddiau. Weithiau bydd peswch yn parhau amhyd at dair wythnos. Firwssy'n achosi'r annwyd cyffredin, sy'narwain at ddolur gwddf, trwyn sy’n gaeedigneu'n rhedeg, pesychu acweithiau cur pen a doluriau a phoenau.. Nid ywgwrthfiotigau'neffeithiol ac ni fyddant yn ei "ladd yn yr egin".Gallwchreoli annwyd cyffredin heb fod angen ymweld â'r feddygfa yn yrhan fwyafo achosion, trwy ddefnyddio paracetamol, ibuprofen neu aspirin (i'r rheiny dros16 oed), meddyginiaeth llacio a meddyginiaeth peswch sydd ar gael yn eichfferyllfa. Siaradwch â'ch fferyllydd i gael cyngor. Os byddwch chi'n mynd ynfwy a mwy gwaelneu os bydd eich symptomau'n para hirach na'r disgwyl, afyddechcystal â ffonio ein meddygfa i gael cyngor gan FeddygTeulu.
Llidyr Amrannau (Conjunctivitis)
Yn gyffredinol bydd llid yr amrannau'n digwydd oherwydd haint neualergedd.
Mewnllid yr amrannau heintus bydd un neu ddwy o'ch llygaid yn mynd yngoch neubinc, efallai y byddant yn ludiog neu ddyfrllyd neu'n teimlo fel petai llid.Fel arfer bydd yn clirio ymhen ychydig ddyddiau heb unrhyw driniaeth. Efallai ybydd eich fferyllydd yn argymell elïauneu ddiferion gwrthfiotig, neu eich bodyn gweld eich Meddyg Teulu os yw'r haint yn ddifrifol neu ddim yn gwella.
Mewn llid yr amrannau alergaidd bydd eich llygaid yn goch, yn ddyfrllyd acyncosi. Yr achos mwyaf cyffredin yn ystod tymor clwy'r gwair ywalergedd paill. Ynllai cyffredin, efallai y bydd oherwydd alergeddaui widdon llwch tŷ, colur aphroblemau â lensys cyffwrdd. Fel arfer bydd tabledi neu ddiferion llygadgwrthhistamin, sydd ar gaelgan eich fferyllfa leol, yn helpu. Ewch i weld eichMeddyg Teulu os nad yw'r driniaeth dros y cownter yn effeithiol neu os byddwchynprofi poen yn y llygad, yn colli golwg neu'n sensitif ioleuni.
Dolur clust (Earache)
Bydd y rhan fwyaf o ddoluriau clust yn gwella heb fod angen gwrthfiotig.Dylechddefnyddio dos priodol o baracetamol neu ibuprofen i leddfu'r boen. Os yw'chdolur clust yn para mwy nag ychydig ddyddiau, neu os yw'n ddifrifol ac nid ywcyffuriau lleddfu poen yn ei leddfu,trefnwch apwyntiad â'n Nyrs Ymarferyddneu'ch MeddygTeulu.
Cwyr clust (Earwax)
Mae cwyr clust yn darparu gorchudd amddiffynnol ar gyfer leinin croen camlaseich clust ac yn ei atal rhag sychu a hollti. Nid yw cwyr clust sy’n cronni ynbroblem ddifrifol ond gall achosi anghysur acholled clyw ysgafn. Ni ddylechbyth rhoi unrhyw wrthrych yn eich clustiau i geisio glanhau cwyr clust,oherwydd gall hyn gynyddu'r siawns bydd rhwystr yn digwydd. Weithiau bydd angendiferion clust,er enghraifft, olew'r olewydd neu sodiwm bicarbonad, i feddaluachlirio'r cwyr clust. Gofynnwch i'ch fferyllydd am gyngor am hyn. Ar ôldefnyddio diferion clust os byddwch yn dal i gael anghysurneu golled clyw,trefnwch apwyntiad i weld y Nyrs Ymarferydd neu'ch Meddyg Teulu.
Ffliw (Flu)
Mae achosion ffliw yn digwydd yn y rhan fwyaf o Aeafau a gall gwahanolfirysaueu hachosi. Yn nodweddiadol bydd salwch sy'n debyg i ffliw ynachosi tymheredduchel, doluriau a phoenau yn y cyhyrau a chymalau,peswch ac amrywiaeth osymptomau eraill. Dylech orffwys yn y cartref,yfed digon o ddŵr a chymrydcyffuriau lleddfu poen syml fel paracetamol. Bydd y rhan fwyaf o bobl yngwella'n llwyr, ond bydd cymhlethdodau fel niwmonia'n datblygu mewn rhaiachosion, felly mae'n bwysig eich bod yn ceisio cyngor eich fferyllydd neuFeddyg Teulu os oes gennych gyflwr cronig arall fel y rheini sy'n effeithio ary frest, y galon, yr arennau neu'r iau; neu os ydych yn ddiabetig neu' ncymrydcyffuriau sy'n atal y system imiwnedd.
Tymheredd Uchel (High Temperature)
Dyma broblem gyffredin, yn enwedig yn achos plant ifanc, ac mae bron bob amseryn cael ei achosi gan haint, un firol yn fwyaf cyffredin fel yr annwydcyffredin. Bydd y rhan fwyaf o'r heintiau hyn yn gwella gyda thriniaeth yn ycartref ymhen ychydig ddyddiau. Cadwch y plentyn yn oer, ac osgowch ormod oddillad/gorchuddion a thymheredd ystafell rhyuchel a rhowch ddiodydd oer. Maegolchi’r plentyn â sbwnj â dŵr cynnes yn dderbyniol. Os bydd y plentyn dan 16oed gallwch ddefnyddio paracetamol ac ibuprofen. Gallwch ddefnyddio aspirin yn achospobl dros 16 oed yn unig. Os oes unrhyw arwyddion eraill pryderus, cysylltwchâ'r Meddyg Teulu. Nid fydd dod â phlentyn â thwymyn i'r feddygfa yn achosiunrhyw niwed.
Briwiau Ceg (Mouth Ulcers)
Mae briw ceg yn gyflwr cyffredin iawn, a bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael oleiaf un yn ystod eu hoes. Mae astudiaethau wedi dangos bod briwiau ceg yn fwycyffredin mewn merched a phobl dan 40 oed. Ni fydd y rhan fwyaf o friwiau cegangen triniaeth benodol. Fel arfer bydd briwiau ceg yn gwella'n naturiol hebfod angen triniaeth neu feddyginiaeth.Gallwch brynu llawer o'r feddyginiaeth idrin briwiau ceg dros y cownter yn eich fferyllfa leol. Siaradwch â'chfferyllydd am ba feddyginiaeth fyddai mwyaf addas i chi. Os yw'ch briw yn achosipoen sylweddol i chi, neu os byddwch yn cael briwiau ceg yn fynych, yna dylechfynd i weld eich Meddyg Teulu. Hefyd dylech fynd i weld eich Meddyg Teulu osbydd eich briw ceg wedi para am fwy na thair wythnos.
Gwaedlif o'r trwyn (Nosebleeds)
Yn anaml bydd y rhain yn digwydd am unrhyw reswm difrifol. Eisteddwch mewncadair, gan bwyso ymlaen â'ch ceg ar agor, a phinsiwch flaen eich trwyn yngadarn. Gallwch roi pecynnau rhew ar y trwyn. Parhewch â'r gwasgu am 10-15munud ac erbyn hynny dylai fod y gwaedu wedi stopio. Os nad yw wedi stopio,ffoniwch y feddygfa i gael cyngor gan Feddyg Teulu.
Tarwden (Ringworm)
Term cyffredinol yw tarwden sy'n cael ei ddefnyddio i gyfeirio at niferowahanol heintiau ffyngaidd heintus ar y croen, croen y pen neu'r ewinedd.Mae'r cyflwr yn cael ei alw'n darwden oherwydd gall adael brech coch siâpmodrwy ar y croen ac nid oes unrhyw gysylltiad â phryfed genwair. Fel arfergellir trin tarwden ar y corff ahaint ar yr afl yn llwyddiannus gan ddefnyddiomeddyginiaeth gwrthffyngaidd dros y cownter. Bydd eich fferyllydd yn gallu rhoicyngor i chi am hyn. Ni fydd angen gweld eich Meddyg Teulu oni bai bodsymptomau eich tarwden heb wella cyn pen pythefnos o driniaeth.Hefyd dylechweld eich Meddyg Teulu os oes gennych gyflwr meddygol,neu os ydych yn caeltriniaeth feddygol, y mae'n hysbys ei fod/bod yn gwanhau eich system imiwnedd,fel cemotherapi neu ddefnydd tymor hiro steroidau .
Dylechbob amser fynd i weld eich Meddyg Teulu os byddwch chi, neu'ch plentyn,yn datblygu tarwden ar groen y pen. Nid yw elïau gwrthffyngaidd yn effeithiolwrth drin y cyflwr oherwydd nid ydynt yngallu treiddio holl groen y pen. Fellybydd angen i chi weld eich Meddyg Teulu i gael tabledi gwrthffyngaidd.
Llid y Sinysau Llym (Acute Sinusitis)
Fel arfer bydd llid y sinysau llym (haint y sinysau) yn gwella ar ei ben ei hunheb driniaeth. Efallai y bydd angen cyffuriau lleddfu poen neuddiferion llacio,sydd ar gael o'ch fferyllfa, am hyd at wythnos mewnrhai achosion. Yn y rhanfwyaf o achosion firysau sy'n achosi hyn fel yr annwyd cyffredin neu ffliw,felly nid oes angen gwrthfiotig fel arfer. Ewch i weld eich Meddyg Teulu neu'nNyrs Ymarferydd os yw'ch symptomau'n ddifrifol, os ydych yn wael iawn, os oesgennych salwch arall fel cyflwr calon neu frest neu system imiwnedd gwan neu osnad yw'ch symptomau wedi gwella o fewn 7 diwrnod neu os ydynt yn gwaethygu.
Brechau firol (Viral rashes)
Fel arfer nid yw'r rhain yn achos pryder oni bai bod y plentyn yn wael.Yn amlbydd brechau ysgafn yn digwydd gyda heintiau firol. Os oes gennych bryderoherwydd bod eich plentyn yn wael, trefnwch apwyntiad i weld eich Meddyg Teuluneu ffoniwch ein meddygfa i gael cyngor. Mae brech llid yr ymennydd yn wahanoli frechau eraill oherwydd ni fyddyn diflannu pan fydd gwydr yn cael ei bwysoarno. Dylid gweld eich plentyn ar unwaith os byddwch yn amau llid yr ymennyddfirol.
Dolur gwddf
Fel arfer mae heintiau firol neu facterol yn achosi dolur gwddf. Mae dolurgwddf yn gyflwr cyffredin, a bydd y rhanfwyaf o bobl yn cael o leiaf dau neu dri bob blwyddyn. Maent yn tueddu i fod ynfwy cyffredin ymhlith plant a phobl ifanc yn eu harddegau. Mae hyn oherwydd nadyw pobl ifanc wedi adeiladu imiwnedd yn erbyn llawer o'r firysau a bacteriasy'n gallu achosi dolur gwddf.
Nid yw'r rhan fwyaf o ddoluriau gwddf yn ddifrifol ac maentyn gwella o fewn 3-7 diwrnod heb fod angen triniaeth feddygol. Fel arfergallwch ddefnyddio cyffuriau lleddfu poen dros y cownter, fel paracetamol,ileddfu symptomau dolur gwddf. Bydd gwrthfiotigion yn cael eu rhoi ar bresgripsiwnar gyfer achosion arbennig o ddifrifol o ddolur gwddf yn unig, neu efallai ycewch bresgripsiwn os oes gennych gyflwr sy'ngwanhau eich system imiwnedd, neuos oes gennych glefyd y galon neu hanes o glefyd crydcymalau neu os ydych ynprofi heintiau mynych wedi'u hachosi gan facteria streptococws.
Ewch i weld eich MeddygTeulu os na fydd eich symptomau'ngwella ar ôl pythefnos, osydych yn cael doluriau gwddf aml nad ydynt yn ymatebi gyffuriau lleddfu poen, fel paracetamol, ibuprofen, neu aspirin, neu os oes gennychimiwnedd is nag arfer oherwydd salwch fel HIV neu driniaethau fel cemotherapi,neu feddyginiaeth steroid. Hefyd ewch i weld eich Meddyg Teulu os na allwchreoli eich twymyn (tymheredd uwch na 38C(100.4F) er gwaethaf paracetamol a/neuibuprofen.
Dylech ffonio999 a gofyn am ambiwlans os cewchdrafferth wrth anadlu, anhawsterwrth lyncu poer a hylifau, neu agor eich ceg,neu os byddwch yndechrau glafoerio.
HeintiauLlwybr Troethol (UTIs)
Math cyffredin o haint sy'n digwydd yn y llwybr troetho yw haint llwybrtroethol(UTI). Ymhlith symptomau UTI mae poen neu deimlad llosgiwrth basio dŵr(dyswria), angen aml i basio dŵr, wrin cymylog neu anarferol o ddrewllyd aphoen yn rhan isaf yr abdomen.
Mae UTIs yn fath cyffredin iawn o haint mewn merched. MaeUTIs yn anghyffredin mewn dynion. Mae'r rhagolwg ar gyfer y rhan fwyaf oachosion UTI ynardderchog. Fel arfer mae'r heintiau yn ysgafn a byddant yngwella ymhen pedwar i bum niwrnod. Gellir defnyddio gwrthfiotigau i helpu I gyflymu'ramser gwella. Dylech fynd i weld eich Meddyg Teulu os na fydd eich symptomau yngwella ar ôl pum niwrnod, neu os byddant yn gwaethygu'n sydyn. Hefyd bydd ynrhaid i chi weld eich MeddygTeulu os oes gennych dymheredd uchel (twymyn) 38ºC(100.4ºF)neu uwch, crynu ni ellir ei reoli, cyfog, chwydu, dolur rhydd.
Hefyd dylech ymweld â'ch Meddyg teulu os oes gennychffactor risg sy'n cynyddu'r siawns y bydd yr haint yn achosi cymhlethdodau mwy difrifolfel beichiogrwydd, clefyd yr arennau, system imiwnedd gwan,diabetes neu osydych yn oedrannus. Dylai dynion sy'n profi UTIs fynd i weld eu Meddyg Teulu.
Chwydu a Dolur Rhydd (Vomiting and Diarrhoea)
Yn y rhan fwyaf o achosion bydd heintiau firol yn achosi hyn, ac weithiaugwenwyn bwyd. Rhan bwysig y driniaeth yw gorffwys y stumog a pherfedd trwybeidio â chael bwyd yng nghyfnod cyntaf y salwch ac yfed digon o hylif (dimte/coffi/alcohol/diodydd swigod) i atal diffyg hylif. Os yw’r symptomau ynddifrifol neu’n estynedig, yn enwedig mewn babanod, pobl oedrannus neu gleifiondiabetig, ffoniwch y feddygfa i gael cyngor neu wneud apwyntiad i weld eichMeddygTeulu
Dafadennau (Warts)
Er bod dafadennau yn gallu bod yn hyll, yn y rhan fwyaf o achosion meant ynddiberygl. Enw dafadennau ar y traed yw ferwcau. Fel arfer bydd dafadennau aferwcau yn clirio mewn amser heb driniaeth, ond gall gymryd hyd at ddwy flyneddneu hirach. Weithiau, byddant yn cael eu trin, mewn ymgais i wneud iddyntglirio yn gynt. Os oes angen triniaeth, yn y rhan fwyaf o achosion bydd ynbriodol prynu eli asid salisylig dros y cownter gan eich fferyllfa. Gofynnwchi’ch fferyllydd am gyngor.